skip to main content
Newcastle Emlyn Town Council crest

Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn

Newcastle Emlyn Fair Trade town logo

TREF FASNACH DEG

 

Enillodd Castell Newydd Emlyn ei statws Tref Masnach Deg ym mis Tachwedd yn 2014, yn y flwyddyn bu’r mudiad Masnach Deg yn dathlu 20 mlynedd o’r Farcyn Masnach Deg. Roedd hyn yn benllaw tair blynedd o ymgyrchu gan y Grŵp Llynio Masnach Deg lleol.

Dechreuodd y daith i ddod yn Dref Masnach Deg ym mis Tachwedd yn 2011 pan ddaeth grŵp o bobl o’r gymuned leol at ei gilydd i hyrwyddo Masnach Deg yn y dref. Trwy gydol y tair blynedd, cynyddodd llawer o weithgareddau, fel stondinau smwddi Fasnach Deg, ymweliadau gan gynhyrchwyr Masnach Deg, arddangosfeydd Masnach Deg mewn digwyddiadau lleol a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd yn y mudiad Masnach Deg, i godi ymwybyddiaeth Masnach Deg yn y dref.

Er mwyn dod yn Dref Masnach Deg roedd angen i ni gyflawni pump‘Nod Masnach Deg’ meddai Jill Sutton sy’n cydlynu grŵp Tref Masnach Deg ac yn cyd-redeg busnes Masnach deg yng Nghastell Newydd Emlyn. Y Nod cyntaf yw cael cefnogaeth y Cyngor Tref, yr ail Nod ydy i gael cynnyrch Masnach Deg ar gael o fewn siopau a chaffis, Nod 3 yw Masnach Deg yn cael ei gefnogi gan grwpiau cymunedol, ysgolion a gweithleoedd yn y dref, Nod 4 yw’r gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a sylw yn y cyfryngau ar gyfer yr ymgais, a Nod 5 ydy i greu grŵp llywio gweithredol. Dywedodd y sefydliad Masnach Deg, sef y corff dyfarnu ar gyfer Trefi Masnach De, yn yr Adborth Cais cyntaf ‘Yn aml nid yw cais cychwynnol tref eisoes mor gryf a chynhwysfawr â chi (Castell Newydd Emlyn)’. Ffodd bynnag, statws Tref Fasnach Deg Castell Newydd Emlyn oedd dechrau ei siwrnai Masnach Deg, gan bod rhaid i’r grŵp adnewyddu ei statws mewn 12 mis ac yna adnewyddu ddwywaith y flwyddyn.

Mae ymgyrchu dros Fasnach deg yng Nghastell Newydd Emlyn yn broses barhaus, mae’r grŵp llywio yn meddwl am ffyrdd newydd ac arloesol o ddangos manteision cefnogi Masnach Deg i’r cynhyrchwyr a’n cymuned leol. Mae’r grŵp wedi bod yn llwyddiannus wrth godi arian er mwyn cael cydnabyddiaeth weladwy o gefnogaeth y gymuned i Fasnach Deg, ein harwyddion Tref Masnach Deg a godwyd yn 2017 a’i hagor gan yr AS lleol, Jonathon Edwards.

Gallwch gadw i fyny â gweithgareddau Grŵp Masnach Deg Castell Newydd Emlyn trwy eu tudalen Facebook.

Mae’r grŵp llywio gweithredol yn croesawu aelodau newydd, felly os oes gennych ddiddordeb mewn materion Masnach Deg a chyfiawnder Masnach ac eisiau ymuno a’r ymgyrch, cysylltwch â Jill Sutton, 01239 712835.

Dilynwch y Grŵp Masnach deg Castell Newydd Emlyn ar Facebook.