CAE CHWARAE BRENIN SIOR V
Rhoddwyd y Cae Chwarae i dref Castell Newydd Emlyn ynghyd a llawer o rai eraill yn genedlaethol ar ôl marwolaeth y Brenin Siôr V yn 1936, er bod y dref, trwy’r cyngor, wedi bod yn gyfrifol am gynnal a chadw’r tir yn y gorffennol, teimlid mai’r ffordd orau o wasanaethu ei fuddiannau fyddai gan bwyllgor sy’n cael ei rhedeg ar wahân. Mae Cymdeithas Cae Chwarae'r Brenin Siôr V sydd wedi bodoli ers tua tair degawd, yn elusen gofrestredig, ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd yng Nghastell Newydd Emlyn i drafod a chynllunio digwyddiadau codi arian i gynnal a chadw’r tir.
Ariennir y cae chwarae yn gyfan gwbl trwy rodd elusennol, er bod y Gymdeithas hefyd yn gwneud cais am gyllid arall yn rheolaidd – dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i ddenu nifer o grantiau bach. Yn 2008, cadwyd dros £90,000 mewn cyllid allanol, gan gynnwys dyfarniad y Loteri Genedlaethol o £50,000 a oedd yn ein galluogi i ailwampio’r parc yn llwyr gydag offer chwarae newydd. Fel arall, rydym yn dibynnu ar godi arian yn rheolaidd, fel arddangosfa flynyddol Tan Gwyllt y dref a gynhelir ar y 5ed o Dachwedd ar dir y castell yng Nghastell Newydd Emlyn. Rydym hefyd yn cynnal Diwrnodau Hwyl, a digwyddiadau eraill i godi arian. Mae yna groeso am awgrymiadau – ac mae wastad angen cynorthwywyr.
Yn anffodus, oherwydd bod ymddiriedolaeth elusennol yn berchen y tir, nid yw’r maes chwarae yn dod o dan berchnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae hyn yn golygu nad oes gan y Cyngor Sir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol i ofalu am y cyfleusterau na’i ariannu. Nid oes gan y Cyngor Tref gyfrifoldeb uniongyrchol am y tir mwyach, oherwydd bod perchnogaeth wedi’i throsglwyddo i elusen Cymdeithas Maes Chwarae Brenin Siôr V.
Mae croeso i unrhyw un ymuno a’r pwyllgor, a dim ond llond dwrn o aelodau rheolaidd oedd ganddo tan yn ddiweddar. Mae mwyafrif aelodau’r pwyllgor yn rhieni a thrigolion lleol eraill sy’n rhoi eu hamser yn gwirfoddoli ac yn gweithio’n ddiflino i geisio cynnal a gwella cyflwr y gce chwarae. Y cadeirydd yw Mark Frost markfrost@gmail.com
Cynhelir cyfarfodydd yn ôl yr angen, am 7.30yh, yn y Siambr, Neuadd Cawdor (Twr y cloc). Mae croeso i unrhyw un fynegi, a gellir pleidleisio ar aelodau newydd mewn unrhyw gyfarfodydd.
Edrychwch ar y dudalen Facebook, Cymdeithas Meysydd Chwarae'r Brenin Siôr V Castell Newydd Emlyn.
Digwyddiadau Blynyddol:
Parti yn y Parc
Noson Tan Wyllt (a gynhelir bob blwyddyn ar y 5ed o Dachwedd) ar Dir y Castell.