skip to main content
Newcastle Emlyn Town Council crest

Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn

HANES Y CASTELL YNG NGASTELL NEWYDD EMLYN

Mae hanes cyffrous i ‘gastell newydd’ Emlyn. Sefydlwyd fel caer o wneuthuriad pren a phridd yng nghanol y 13eg ganrif, ei ddatblygu’n gastell cerrig cydlynol yn sicr erbyn 1287 a’i adael mewn adfeilion ar ôl rhyfel cartref y 1640au.

Ceir awgrym yn hanes y castell bod y Brenin Henri III wedi gorchymyn i’r tiriogaeth mewn bodolaeth yng ngantref Emlyn gael ei rannu a’r tiroedd i’r swyrain i’r Afon Cych eu rhoi i Maerdudd-Rhys Gryg.
 

Dyma'r castell yng Nghastell Newydd Emlyn


Roedd y castell, yn wreiddiol,yn gaer i Maredudd er mwyn amddifyn ei gaffaeliadau Newydd, yn ôl pob tebyg.

Fe aeth perchnogaeth y castell o law i law sawl Gwaith, gan gynnwys y goron, y farwniaeth ac ar yr un adeg neb llai na’r enwog Owain Glyndwr.
 

Roedd cyfnod mwya’r castell o ran datblygiad rhwng 1300 a 1350 o dan y Brenhinoedd Edward a’r Tywysog Du. Dyma pryd roedd a rei fwyaf cyflawn, yn gefn i gymuned lewyrchus gyda Neuadd, capel a llawer o gartrefi. Ac, yng ngeiriau Hen Saesneg arolwg 1532, roedd ganddo ‘a little towre to view and see the cuntre’ a oedd yn ystod y dyddiau pell yn ôl hynnu yn ‘wel wodded with certain red dere therin’.
 

O ddechrau’r 16eg ganrif, fe ddychwelodd yr arglwyddiaeth I’r Goron ac roedd o dan reolaeth gweithredwyr wedi eu penodi gan y brenin. Roedden nhw’n cael eu nabod fel ‘fermours’ ac ro’n nhw’n berchen y tir trwy brydles. Roedd y castell erbyn hyn yn debycach i breswyliad na chadarnle, ac roedd y ‘fermours’ yn ffermio’r arglwyddiaeth.
 

Fe gafodd y castell, o dan Iarll Carberry, ei roi dan warchae gan rymoedd Cromwell yn 1644.
 

Wrth edrych tua’r castell o’r maes parcio rydych yn gweld olion cerrig y porthdy gwreiddiol a’r twr deheuol, wedi eu hadeiladu ar ddechrau’r 14eg ganrif, yn ôl pob tebyg, ac yn ffurfio ochr orllewinol y ward fewnol siâp triongl. Wrth i chi agosàu at y porthdy fe fyddwch chi’n pasio’r cilgant, safle gyniau wedi ei warchod, ar ffurf gwrthglawdd serth a adeiladwyd yng nganol y 17eg ganrif.
 

Fe fyddai dau dwr y porthdy yn wreiddiol yn cynnwys cyfleusterau pwysig ar gyfer y castell a rei anterth gan gynnwys porthdy ac oddi tano hwnnw, carchar neu ddaeargell. Roedd y Ward Fewnol yn nodedig am ei neuadd a chapel.
 
O’r llwybyr trefol o dan y castell a gafodd ei ddatblygu’n ddiweddar, fe allwch edrych lan a dychmygu gweithgaredd prysur oes a fu.