Archwiliad Cyfrifon Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn
Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn
Y flwyddyn sy’n diweddu 31 Mawrth 2019
1. Dyddiad y cyhoeddiad 14/06/2019
2. Bob blwyddyn, mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati yn ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2019, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol drwy wneud cais i:
Mrs S Jones
Awelon
Penboyr
Velindre
Llandysul
SA44 5JF
clerk@newcastleemlyntowncouncil.co.uk
rhwng yr oriau 5.30yh a 6.30yh ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener
gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2019
a gorffen ar 26 Gorfennaf 2019
3. O 29 Gorffennaf 2019 hyd nes bod yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
· yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton UK LLP, 11-13 Penhill Road, Cardiff, CF11 9UP
· ac yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwrthwynebu’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf drwy Grant Thornton UK LLP, 11-13 Penhill Road, Cardiff, CF11 9UP.
· Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r cyngor.
4. Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
